Daw jin crefft a enilloddsawl gwobr ac a gynhyrchir yn ein distyllfa fechan ar yr ynys. Cynigir y ddiodunigryw hon i’r holl yfwyr jin sy’n mynnu rhywbeth bach ychwanegol...
Prynu NawrO fyd y gorffennol, pan fyddai dewiniaeth a grymoeddcyfriniol bob amser yn hysbysu’r byd real, byddnodweddion unigryw Môn yn byw’n dragywydd drwy ei thir a’i phobl. Cafoddgwarchodwraig yr ynys, y dduwies Branwen, ei rhoi i orffwys mewn bedd nidnepell o ddistyllfa Afallon - yn ôl y sôn, mae ei hysbryd yn troedio dyfroeddyr afon Alaw hyd heddiw.
Mae Afallon, yr ynys ddirgel sy’n bodoli’r tuhwnt i fyd amserol a gofodol meidrolion, yn atseinio’n hyfryd â Môn, ei chwaerynys. Ceir ar y ddwy ynys hudoliaeth sy’n gynhenid Geltaidd.
Gwyliwch y ffilm - yn cynnwys llais John Ogwen
Wedi’i grefftio drwy broses sy’n llawn gofal, sgil acymroddiad at ansawdd ac, o bosib, mymryn o ddewiniaeth Geltaidd, mae Jin LondonDry Afallon yn unigryw Geltaidd a Chymreig yn ei hanfod.Rydym wedi defnyddio dŵr o’r ffynnon 200 mlwydd oed syddgennym ar dir y ddistyllfa yma yn Ynys Môn.
Daw ein cynnyrch botanegol o’rardal leol a thros y byd i greu profiad yfed hynod neilltuol. Wrth ei yfed arei ben ei hun, cewch eich taro â ffrwydrad sitrws ffres o groen oren a lemwn. Osdewiswch chi’r cymysgydd iawn, cewch fwynhau’r ddiod berffaith.
O dan arweiniad y meistr ddistyllwr adnabyddus, GerardEvans, sydd wedi ennill nifer o wobrau, rydym wedi gwireddu ein breuddwyd igreu jin a fyddai’n cyrraedd y lefel ragoriaeth uchaf.
Ingredients
Juniper Berries
Cardamon Pods
Peppercorns
Star Anise
Lemon
Dafliad carreg o bentref prydferth Llanfachraeth, bu’r fferm o dan ofal yteulu Owen ers cenedlaethau ac mae bellach yn gartref i fusnes blaengar. Mae ArwynOwen a’i frawd Gethin, ynghyd â’u ffrindiau Emyr Gibson a Keith Williams, wedibod yn cynllunio’r fenter hon dros y pum mlynedd ddiwethaf. Adlewyrchireu brwdfrydedd a’u llygad am fanylder yn ansawdd eu cynnyrch.
Mae distyllfa Afallon Môn wedi’i lleoli ar YnysMôn yng Ngogledd Cymru. Gyda thiroedd gwledig bendigedig o’i chwmpas, mae’rddistyllfa wedi’i lleoli mewn ysgubor Gymreig o’r ddeunawfed ganrif sydd wedi’ihadnewyddu ar Fferm Bedo.
Mwynhewch yn Gyfrifol
Privacy PolicyTerms & Conditions